Mae trefnu gofal trawma wedi bod yn agenda gofal iechyd gref ledled y byd ers y 1970au. Mae rhwydweithiau trawma byd-eang wedi dangos gostyngiad sylweddol mewn marwolaethau/afiachusrwydd a gwelliant mewn canlyniadau swyddogaethol. Mae rhwydweithiau trawma wedi bod yn gweithredu yn y DU ers 2010 yn Llundain, a 2012 yng ngweddill Lloegr (ymunodd Gogledd Cymru yn 2013). Lansiwyd Rhwydwaith Trawma De Cymru ar 14 Medi 2020.
Ein gweledigaeth yw gwella canlyniadau a phrofiad cleifion, ar draws y llwybr claf cyfan o'r pwynt clwyfo i adferiad ac mae'n cynnwys atal anafiadau. Mae'r rhwydwaith yn cynrychioli partneriaeth rhwng sefydliadau sy'n cymryd rhan, pob un yn gyfrifol am gydweithio i gyflawni'r nod a'r pwrpas cyffredin hwn. Bydd y rhwydwaith trawma yn gwella canlyniadau cleifion trwy achub bywydau ac atal anabledd y gellir ei osgoi, gan ddychwelyd cleifion at eu teuluoedd, gwaith ac addysg.
Mae Rhwydwaith Trawma De Cymru yn cynnwys y canlynol:
Mae'r rhwydwaith trawma yn sicrhau bod cleifion sy'n cael eu hanafu fwyaf difrifol yn cael eu trosglwyddo'n gyflym o leoliad digwyddiad neu ysbytai eraill i'r Ganolfan Trawma Mawr, er mwyn elwa ar ofal arbenigol amserol ac effeithlon. Mae gofal yn parhau yn nes at y cartref neu yn y gymuned unwaith y bydd gofal arbenigol wedi'i gwblhau. Yn gyffredinol, mae gofal yn nes at y cartref yn cael ei hwyluso trwy adsefydlu. Yn wir, yr allwedd i gadw’r llwybr trawma ar agor yw i adsefydlu arbenigol a lleol gael ei drefnu a’i adnoddau yn y ffordd orau bosibl, gan gysylltu â phecynnau gofal iechyd parhaus ar gyfer cleifion sydd eu hangen. Mae buddion i gleifion yn cael eu gwireddu ar draws y rhwydwaith, nid yn y Ganolfan Trawma Mawr yn unig.
Mae'r llwybr trawma yn cynnwys nifer o gydrannau yn nhaith y claf, gyda'r berthynas rhwng, ac uniondeb, y cydrannau yn hollbwysig i gyflawni'r rhwydwaith yn llwyddiannus. Mae gan bob rhan deilyngdod cyfartal.