Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Ofal Iechyd Arweiniol
Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Ofal Iechyd Arweiniol
Kate Jones yw’r Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Ofal Iechyd Arweiniol ar gyfer Rhwydwaith Trawma De Cymru. Graddiodd Kate o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru fel ffisiotherapydd yn 2001. Ers cymhwyso mae Kate wedi gweithio ar draws De Cymru gan arbenigo mewn cyflyrau niwrolegol. Maes ei diddordebau clinigol yw anafiadau trawmatig i’r ymennydd, niwrolawdriniaeth ac yn fwy diweddar Polytrauma.
Mae Kate wedi bod yn ymwneud ag ymchwil i wella gofal cleifion sydd wedi cael trawma trwm ar y frest ac mae hyn yn rhan o'i phortffolio addysgu.
Mae Kate yn angerddol am sicrhau bod cleifion Trawma Mawr yn cael yr adsefydlu sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn gwneud y mwyaf o'u potensial ar ôl anaf.