Neidio i'r prif gynnwy
Kosta Morley

Arweinydd Clinigol ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg

Amdanaf i

Arweinydd Clinigol ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg

Mae Dr Morley yn ymgynghorydd mewn Meddygaeth Frys a meddygaeth cyn ysbyty. Wedi graddio o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn 2001, gwnaeth ei holl hyfforddiant ôl-raddedig mewn meddygaeth frys yn Ne Cymru. Ar hyn o bryd mae Dr Morley yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol y Grange, Cwmbrân. Mae hefyd yn gweithio i Wasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, gwasanaeth heli-meddygaeth Cymru. Mae Dr Morley yn addysgu'n rheolaidd ar gyrsiau cynnal bywyd pediatrig uwch, cyrsiau llwybr anadlu uwch a chyrsiau tawelu gweithdrefnol. Yn ogystal mae'n uwch ddarlithydd i Brifysgol Caerdydd yn dysgu gwyddor trawma.