Gellir diffinio 'trawma mawr' fel anafiadau lluosog a difrifol a allai arwain at anabledd neu farwolaeth. Gall y rhain gynnwys anafiadau difrifol i'r pen, anafiadau lluosog a achosir gan ddamweiniau traffig ffyrdd, damweiniau diwydiannol, cwympiadau, anafiadau torfol, clwyfau â chyllell a drylliau. Trawma mawr yw prif achos marwolaeth mewn pobl o dan 45 oed ac mae’n achos sylweddol o salwch tymor byr a thymor hir neu iechyd gwael.
Mae rhwydwaith trawma mawr yn grŵp o ysbytai, gwasanaethau brys a gwasanaethau adsefydlu sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod claf yn cael y gofal gorau ar gyfer anafiadau sy’n bygwth bywyd neu’n newid bywyd. O fewn y rhwydwaith mae canolfan trawma mawr, unedau trawma, ysbytai brys lleol a chyfleusterau trawma gwledig, a gefnogir gan ysbytai eraill yn y rhanbarth. Mae tystiolaeth gref bod rhwydwaith trawma mawr yn achub bywydau ac yn darparu canlyniadau gwell i gleifion, gan gynnwys adsefydlu mor agos at eu cartrefi â phosibl.
Mae’r Ganolfan Trawma Mawr i oedolion a phlant wedi’i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC), Caerdydd. Gan fod trawma mawr yn anghyffredin ac yn gymhleth i’w reoli, mae’r gwasanaethau a ddarperir yn y ganolfan trawma mawr yn hynod arbenigol ac mae’n cydweithio ag ysbytai eraill yn y rhwydwaith ac yn eu cefnogi.
Cefnogir y ganolfan trawma mawr gan nifer o unedau trawma. Mae unedau trawma yn bwysig o ran darparu gwasanaethau achub bywyd ar unwaith i gleifion nad ydynt, oherwydd eu hanafiadau, yn ddigon sefydlog i deithio i’r ganolfan trawma mawr ac, ar ôl hynny, a fydd yn eu trosglwyddo’n gyflym i’r ganolfan trawma mawr.
Mae uned drawma, gyda gwasanaethau arbenigol, yn Ysbyty Treforys, Abertawe, yn darparu cymorth arbenigol i'r ganolfan trawma mawr ac yn darparu llawdriniaeth arbenigol i gleifion nad oes ganddynt anafiadau lluosog, ond sydd angen llawdriniaethau llosg, plastig, asgwrn cefn a chardiothorasig.
Yn ogystal â’r uned drawma yn Ysbyty Treforys, mae pum uned trawma yn y lleoliadau canlynol:
Mae yna Ysbyty Brys Lleol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant. Nid yw Ysbyty Brys Lleol yn derbyn cleifion trawma mawr fel mater o drefn. Fodd bynnag, mae ganddo brosesau ar waith i sicrhau, os bydd hyn yn digwydd, bod cleifion yn cael eu rheoli'n briodol a'u trosglwyddo i'r Ganolfan Trawma Mawr neu'r Uned Trawma agosaf. Fodd bynnag, bydd yr ysbyty hwn yn parhau i dderbyn trawma cymedrol a thrawma orthopedig ynysig. Bydd Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cynnal Adran Achosion Brys 24/7 gyda gwasanaethau aciwt cysylltiedig.
Mae cyfleusterau trawma gwledig yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth, ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ysbytai hyn yn cynnal y gallu i asesu a thrin cleifion trawma mawr, o ystyried eu lleoliadau daearyddol cymharol unigryw. Mae'r ddau ysbyty hyn ar hyn o bryd yn derbyn ac yn rheoli trawma mawr ac maent bellach yn cael eu cefnogi'n well i wneud hynny ac yn wynebu llai o broblemau o ran atgyfeirio a throsglwyddo ymlaen.
Pan ddywedwn y bydd y rhwydwaith trawma mawr yn cwmpasu 'De Cymru', rydym yn sôn am ddaearyddiaeth eang Cymru wedi'i rhannu'n ddau ranbarth - y gogledd a'r de. Bydd Rhwydwaith Trawma De Cymru yn cwmpasu rhanbarth cyfan De Cymru, sy'n cynnwys siroedd: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf , Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg. Bydd hefyd yn cynnwys De Powys, sef y rhan o'r sir i'r de o'r Drenewydd i raddau helaeth.