Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan gaiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gan y Rhwydwaith Trawma De Cymru. Gallwch gysylltu â'r adran ar:

 

 

Rhwydwaith Trawma De Cymru,
Pencadlys BIPBA,
1 Porthfa Talbot
Parc Ynni Baglan
Baglan
Port Talbot
SA12 7BR                                                                          

 

Rhif Ffôn: 01792 516686

E-bost: RhwydwaithTrawma@wales.nhs.uk

 

Pam ydyn ni'n gallu prosesu eich gwybodaeth?

Rydym wedi'n hawdurdodi'n gyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth bersonol o dan Erthygl 6 o'r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) gan fod y prosesu'n angenrheidiol i ni berfformio ein swyddogaethau swyddogol fel Corff GIG. Bydd GDPR Erthygl 9 hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Bydd adegau pan fyddwn yn dibynnu ar seiliau cyfreithlon eraill megis pan fydd angen prosesu er mwyn i ni gydymffurfio â'r gyfraith, cefnogi ymchwil wyddonol neu sydd er budd hanfodol i chi neu berson arall (gan gyfeirio at sefyllfa bywyd neu farwolaeth).

 

At ba bwrpas rydym ni’n ei phrosesu?

Lle bo’n bosibl, byddwn yn defnyddio gwybodaeth nad yw’n enwi unigolion, fodd bynnag, weithiau bydd yn rhaid i ni brosesu gwybodaeth bersonol am gleifion oherwydd y pwrpasau canlynol:

  • Er mwyn darparu unigolion cyswllt ar gyfer asesu gofal iechyd a thrin trawma mawr;
  • Er mwyn adolygu archwiliadau gan gymheiriaid a monitro cydymffurfiaeth genedlaethol â thargedau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru
  • Er mwyn rheoli ac ymchwilio i honiadau, cwynion, toriadau, digwyddiadau a methiannau agos yn ymwneud â gofal iechyd sy'n ymwneud â thrawma mawr; ac
  • Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â, neu hwyluso trafodion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol.

 

Am ba mor hir bydd yn cael ei storio?

Ni fyddwn yn storio eich gwybodaeth bersonol yn hirach nag sydd ei angen. Bydd gwybodaeth bersonol yn ddienw pan nad oes ei angen mwyach mewn fformat adnabyddadwy. Bydd yn cael ei storio yn unol â chanllawiau cadw'r GIG fel y ganlyn:

 

  • Bydd gwybodaeth sy'n ymwneud â chwynion yn cael ei chadw am 8 mlynedd
  • Bydd gwybodaeth am gwynion yn cael ei storio am 10 mlynedd
  • Bydd y rhan fwyaf o nodiadau achos oedolion yn cael eu cadw am 8 mlynedd ers y driniaeth ddiwethaf ac 8 mlynedd ar ôl marwolaeth. Bydd cofnodion yn cael eu cadw am 20 mlynedd lle bo angen yn gyfreithiol.

 

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd adegau pan fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill sy'n ymwneud â'ch triniaeth gofal iechyd. Gwneir hyn dim ond pan fo sail gyfreithlon i wneud hynny ac yn unol â'r dibenion a restrir uchod.

 

Lle bo hynny’n orfodol, efallai byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â’r canlynol:

  • Adrannau eraill o fewn y Bwrdd Iechyd;
  • Gyda gofal trawma GIG Cymru neu sefydliadau partner eraill;
  • NHS England; â'r
  • Heddlu, cyrff cyhoeddus, cyrff awdurdodi, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

Sut ydw i'n gallu cysylltu â'r Swyddog Diogelu Data?

Amlinellir manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe isod:

 

Swyddog Diogelu Data
Pencadlys,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
1 Porthfa Talbot
Port Talbot
SA12 7BR

Rhif Ffôn: 01639 683336

E-bost: BIPBA.MaterionCyfrinachedd@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw gwesteiwr y Rhwydwaith Trawma ond nid yw'n berchen ar yr holl wybodaeth dan sylw. Felly, gellir ailgyfeirio eich ymholiad i sefydliad Iechyd arall os yw'n briodol.

 

Beth yw eich hawliau ynglŷn â'ch data personol?

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych chi hawliau y mae angen i ni eich gwneud chi'n ymwybodol ohonynt. Mae'r hawliau ar gael i chi yn dibynnu ar eich rhesymau am brosesu eich gwybodaeth.

 

Eich hawl i gael mynediad

Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol. Mae'r hawl hon yn berthnasol bob amser. Mae rhai eithriadau, sy'n golygu efallai na fyddwch bob amser yn derbyn yr holl wybodaeth yr ydym yn ei phrosesu.

 

Eich hawl i gael cywiriad

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro'r wybodaeth rydych yn credu sy'n anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych chi'n credu sy'n anghyflawn. Mae'r hawl hon yn berthnasol bob amser.

 

Eich hawl i gael dileu gwybodaeth

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

 

Eich hawl i gyfyngu prosesu

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.

 

Eich hawl i wrthwynebu prosesu

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu dim ond lle caiff ei brosesu fel rhan o'n tasgau cyhoeddus, neu os yw er ein budd cyfreithlon.

 

Eich hawl i gael trosglwyddo data

Mae hyn yn berthnasol yn unig i'r wybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni. Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth a roesoch i ni o un sefydliad i'r llall, neu ei rhoi i chi. Mae'r hawl yn berthnasol dim ond os ydym yn prosesu gwybodaeth yn seiliedig ar eich caniatâd neu dan gontract, neu mewn sgyrsiau am ymrwymo i gontract a bod y prosesu yn awtomataidd.

Nid oes angen i chi dalu unrhyw gost am ymarfer eich hawliau. Mae gennym un mis i ymateb i chi.

 

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio os ydych yn anhapus ynglŷn â sut y caiff eich data ei brosesu.

Yn y DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw’r awdurdod goruchwylio, a nodir ei manylion cyswllt isod:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House,
Water Lane
Wilmslow
Cheshire,
SK9 5AF

Ar-lein/sgwrs fyw:https ://ico.org.uk/make-a-complaint/your-personal-information-concerns/personal-information-concerns/

Llinell gymorth: 0303 123 1113

Mae rhagor o ganllawiau ar sut i arfer eich hawliau ar gael ar wefan ICO ar: https://ico.org.uk/your-data-matters/